Brendan Rodgers
Mae rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, wedi galw ar gefnogwyr y clwb i roi hwb ychwanegol i’r chwaraewyr yn ystod ail gymal rownd cyn derfynol y gemau ail gyfle heno.

Fe fydd yr Elyrch yn wynebu Nottingham Forest yn Stadiwm Liberty heno, gan obeithio am le yn y rownd derfynol yn Wembley ddiwedd y mis.

Mae’r clwb wedi galw ar y cefnogwyr i sicrhau fod Stadiwm Liberty yn ddu a gwyn heno ar gyfer y gêm holl bwysig, ac er cof am eu cyn-ymosodwr Besian Idrizaj a fu farw flwyddyn yn ôl yn 22 oed.

“Pan ymunais i â’r clwb roedden ni eisiau i bob tîm oedd yn dod yma deimlo mai dyna oedd90 munud hiraf eu bywydau,” meddai Brendan Rodgers.

“Wrth siarad â rheolwyr a chwaraewyr timau eraill mae hynny wedi bod yn wir am ran helaeth o’r tymor.

“R’yn ni wedi sgorio ac amddiffyn yn dda yn ystod y tymor. Y cymal cyntaf  nos Iau ddiwethaf oedd y 22ain tro mewn 47 gêm i ni atal ein gwrthwynebwyr rhag sgorio.

“Rydyn ni wedi cadw llechen lân yn bron i 50% o’n gemau. Rwy’n creu bod record fel yna a’r nifer o weithiau r’yn ni wedi ennill yn Stadiwm Liberty yn ei wneud yn anodd i dimau ddod yma.

“Mae’r angerdd yn y rhan yma o’r byd yn anhygoel. Rwy’n credu y bydd 20,000 o gefnogwyr yn swnio’n debycach i 50,000.

“Rwy’n gobeithio am yr awyrgylch orau erioed yma heno.”