Ryan Giggs
Mae chwaraewr rhyngwladol Cymru, Ryan Giggs, ar fin torri record arall, ar ôl cipio ei 13fed teitl yn yr Uwch Gynghrair ddoe.

Roedd y gêm honno yn erbyn Blackburn hefyd yn golygu ei fod wedi dod yn gyfartal gyda record Steve Perryman o Spurs am y nifer mwya’ o gêmau i un clwb yn yr Uwch Gynghrair.

Os bydd Giggs yn chwarae yng ngêm ola’ United y tymor hwn, fe fydd yn torri’r record, i ychwanegu at sawl un arall.

Ef sydd wedi ennill mwya’ o anrhydeddau ar lefel ucha’r gêm yn Lloegr erioed ac mae wedi sgorio ar y lefel ucha’ ym mhob tymor yn y 21 mlynedd diwetha’.

Roedd gêm gyfartal yn erbyn Blackburn ddoe yn ddigon i roi’r teitl i Man Utd – yr 19fed yn eu hanes, un yn fwy na record cynharach Lerpwl.