Craig Bellamy - i ffwrdd wedi chwarter awr
Reading 0 Caerdydd 0

Gêm galed heb fawr o gyffro ond llawer o ymdrech – dyna oedd casgliad rheolwr Caerdydd, Dave Jones, ar ôl gêm gyfartal arall yn rownd ail gyfle’r Bencampwriaeth.

Ond, er ei fod yn canmol ei chwaraewyr, mae’n wynebu un broblem fawr cyn yr ail gymal wrth i’r capten a’r chwaraewr gorau, Craig Bellamy, orfod gadael y cae ar ôl ychydig tros chwarter awr.

Roedd y blaenwr yn dal cefn ei goes wrth adael – arwydd ei fod wedi tynnu rhywfaint ar linyn y gar – ac fe ddaeth Michael Chopra ymlaen yn ei le.

Fe gafodd y ddau dîm gyfnodau o bwysau ond ychydig iawn o gyfleoedd gwirioneddol. Un ergyd gan y chwaraewr canol cae, Peter Whittingham, a ddaeth agosa’ i Gaerdydd.

‘Ymladd caled’

“Roedd hi’n gêm a gafodd ei hymladd yn galed, efo lot o dacls yn hedfan i mewn,” meddai Dave Jones wedyn. “Mi wnaethon ni ladd ein gilydd yng nghanol y cae.”

Ar y diwedd, meddai, roedd y ddau dîm wedi cyfnewid crysau ac roedd y cyfan yn socian oherwydd chwys.

Roedd mwy nag 21,000 yn Stadiwm Madejski ac mae disgwyl y bydd Stadiwm Caerdydd yn llawn ar gyfer yr ail gêm nos Fawrth.