Paul Quinn
Wrth i chwaraewyr Caerdydd wynebu gêm bwysica’r tymor hyd yma, mae Dave Jones am iddyn nhw ymlacio.

“Mae’r rheolwr yn ceisio cael pawb i ymlacio er mwyn sicrhau ein bod yn canolbwyntio,” meddai’r amddiffynnwr Paul Quinn ar drothwy gêm gynta’ o ddwy yn erbyn Reading.

Heno mi fydd yr Adar Gleision yn teithio i Stadiwm Madejski, a bydd yr ail gymal yng Nghaerdydd nos Fawrth – gyda’r enillwyr yn mynd i’r ffeinal yn Wembley i chwarae am le yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae jacpot o £90 miliwn yn aros i’r clwb sy’n llwyddo i gyrraedd rheng ucha’ pêl-droed Lloegr – mae Abertawe a Nottingham Forrest hefyd yn y ras.

Gwella ar 2010

Flwyddyn yn ôl fe gollodd y Gleision yn ffeinal y gemau ail-gyfle i Blackpool, ac maen nhw’n benderfynol o edrych ymlaen yn hytrach na gori ar fethiant y llynedd.

“Rwy’n benderfynol o chwarae fy rhan y tro hwn i helpu ni fynd un cam ymhellach ac ennill dyrchafiad,” meddai Paul Quinn.

“Mae’n rhaid i ni anghofio am yr hyn sydd wedi digwydd.  Fe fyddwn ni’n ceisio ennill nos Wener er mwy rhoi’r cyfle gorau posib i ni nos Fawrth.”

Mae Paul Quinn wedi dweud bod ysbryd y chwaraewyr yn uchel er gwaetha’r ffaith iddyn nhw fethu sicrhau dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair fel un o’r ddau dîm gorau yn y Bencampwriaeth.

“Nid yw’n gyfrinach bod pawb yn siomedig ar golli allan ar ddyrchafiad awtomatig wythnos diwethaf, ond mae’r ysbryd yn dda unwaith eto ac rydym ni gyd yn barod am y gemau ail gyfle,” meddai’r Albanwr.