Gary Speed
Mae rheolwr Cymru, Gary Speed, wedi dweud y bydd cyfnod o orffwys yn gwneud lles i Gareth Bale.

Mae asgellwr Tottenham allan am weddill y tymor ac fe fydd yn methu gemau Cymru yng Nghwpan y Cenhedloedd y mis yma yn dilyn anaf i’w bigwrn dros y penwythnos.

Ond mae Gary Speed yn credu bod angen gorffwys ar Bale yn dilyn tymor hir a llwyddiannus.

“Rydw i wedi siarad gyda Gareth ddoe ac mae o’n edrych ar yr ochor orau,” meddai Gary Speed.

“Mae wedi dweud bod at y llawfeddyg ac yn credu y bydd o’n iawn. Fe fydd allan ohoni am tua phedair i chwe wythnos cyn gallu dechrau ymarfer eto.

“Mae o wedi cael tymor hir a chaled, felly fe fydd yr wythnosau bant yn gwneud lles iddo.”

Aaron Ramsey

Un chwaraewr o’r Uwch Gynghrair sydd yn bresennol yng ngharfan Cymru yw’r capten Aaron Ramsey o Arsenal.

Fe arweiniodd Ramsey ei wlad am y tro cyntaf yn erbyn Lloegr ym mis Mawrth, ac er i reolwr Arsenal Arsene Wenger feirniadu’r penderfyniad, mae Speed yn mynnu iddo ddewis y chwaraewr canol cae am y rhesymau cywir.

“Doedden ni ddim wedi penodi Aaron yn gapten dim ond ar gyfer gêm Lloegr – mae’n gapten ar gyfer y dyfodol,” meddai.

“Roedd Cesc Fabregas yn gapten ar Arsenal yn ifanc iawn ac roedd yn siŵr o fod wedi gwneud camgymeriadau.

“Fe fydd Aaron yn dysgu llawer wrth fynd ‘mlaen. Dw i ddim wedi rhoi unrhyw bwysau ychwanegol arno. Y cyfan sydd rhaid iddo wneud yw ei orau a gosod esiampl.

“Mae’n mynd i gael gemau gwych a gemau tawel ond dyma’r penderfyniad cywir yn y tymor hir.

“Fe fyddwn ni’n gystadleuol mewn dwy flynedd rwy’n credu y bydd Aaron wedi elwa o’r profiad y mae’n ei ennill nawr.”