CPD Aberystwyth
Mae Aberystwyth wedi ennill eu lle yn rownd gynderfynol gemau ail gyfle Cynghrair Europa gyda buddugoliaeth yn erbyn Airbus UK ar Goedlan y Parc.

Fe aeth Airbus UK ar y blaen wedi ugain munud pam lwyddodd Ian Sheridan gyda chic o’r smotyn yn dilyn trosedd yn y cwrt cosbi gan olwr Aberystwyth, Steve Cann.

Roedd y tîm cartref wedi rheoli mwyafrif o’r ail hanner, a daeth Ricky Evans yn agos i sgorio gyda pheniad.

Ond wedi awr fe gafodd ymdrechion Aberystwyth eu gwobrwyo pan sgoriodd Ashley Scott gyda pheniad oddi ar groesiad Lewis Codling.

Fe gynyddodd Aberystwyth y pwysau ar Airbus UK ar ôl unioni’r sgôr, ac fe aeth Codling yn agos ar ddau achlysur.

Ond gyda thair munud yn unig yn weddill fe basiodd Steff Edwards y bêl ‘nôl i James McCraten ar ymyl y cwrt cosbi cyn canfod cefn y rhwyd a sicrhau’r gôl fuddugol.

Fe fydd Aberystwyth yn mynd ‘mlaen i wynebu Castell-nedd yn y rownd gynderfynol dydd Sul. Mae Prestatyn yn chwarae yn erbyn Port Talbot yn y rownd gynderfynol arall.