Jack Collison
Mae chwaraewr canol cae West Ham, Jack Collison, wedi ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Cenhedloedd yn hwyrach yn y mis.

Dyma’r tro cyntaf mewn 14 mis i Collison cael ei gynnwys yn y garfan genedlaethol ar ôl iddo anafu ei ben-glin.

Mae’r Cymro 22 oed newydd ddychwelyd i’w glwb gan chwarae 26 munud i’r Hammers yn erbyn Blackburn dros y penwythnos.

Cyn hynny roedd Collison wedi bod yn absennol ers dioddef anaf wrth chwarae dros Gymru mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Sweden ym mis Mawrth y llynedd.

Mae David Cotterill hefyd yn dychwelyd i’r garfan ar ôl methu a chael ei gynnwys ers sgorio yn erbyn Luxembourg ym mis Awst llynedd.

Ond mae Joe Ledley, Gareth Bale, Sam Ricketts ac Andrew Crofts yn absennol oherwydd anafiadau.

Mae rheolwr Cymru, Gary Speed wedi enwi deg chwaraewr sy’n chwarae yng ngemau ail gyfle’r Bencampwriaeth.

Mae Rob Earnshaw a Chris Gunter o Nottingham Forest wedi eu cynnwys ynghyd ag Ashley Williams, Joe Allen a Neil Taylor o Abertawe.

Mae Simon Church a Hal Robson Kanu yn chwarae i Reading tra bod Craig Bellamy a Darcy Blake gyda Chaerdydd.

Fe allai Gary Speed fod heb hyd at bump o’r chwaraewyr hynny ar gyfer y gemau yn erbyn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn Nulyn, o ganlyniad i’r gemau ail gyfle.

Carfan Cymru

Golwyr-  Wayne Hennessey (Wolves), Boaz Myhill (West Bromwich Albion), Lewis Price (Crystal Palace).

Amddiffynwyr- Darcy Blake (Caerdydd), Danny Collins (Stoke ), James Collins (Aston Villa), Neal Eardley (Blackpool), Danny Gabbidon (West Ham), Chris Gunter (Nottingham Forest), Lewin Nyatanga (Dinas Bryste), Neil Taylor (Abertawe), Ashley Williams (Abertawe).

Canol cae- Joe Allen (Abertawe), Jack Collison (West Ham), David Cotterill (Abertawe), David Edwards (Wolves), Andy King (Caerlŷr), Joe Ledley (Celtic), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Blackpool),

Ymosodwyr- Craig Bellamy (Caerdydd), Simon Church (Reading), Rob Earnshaw (Nottingham Forest), Ched Evans (Sheffield Utd), Freddie Eastwood (Coventry), Steve Morison (Millwall), Hal Robson-Kanu (Reading), Sam Vokes (Wolves).