Gabbidon yn chwarae dros Gymru
Mae amddiffynnwr Cymru a West Ham, Danny Gabbidon, wedi cael dirwy o £6,000 a derbyn rhybudd am ei ymddygiad yn y dyfodol ar ôl ymosod yn eiriol ar gefnogwyr y clwb ar Twitter.
Roedd unigolion wedi anfon negeseuon at dudalen Twitter y Cymro ar ôl i West Ham golli 2-1 yn erbyn Aston Villa dros y penwythnos.
Fe regodd Gabbidon ar ei gyfrif a dweud na fyddai byth yn defnyddio Twitter eto. Ers hynny mae ei gyfrif wedi dod i ben.
Roedd West Ham eisoes wedi rhybuddio eu chwaraewyr i fod yn fwy gofalus wrth ddefnydd Twitter, yn dilyn sylwadau dadleuol gan eu hymosodwr Carlton Cole.
Mae Cymdeithas Bêl Droed Lloegr wedi cadarnhau bod y Cymro wedi ei ddirwyo am yr hyn gyhoeddodd ar Twitter ar ôl i Gabbidon gyfaddef i’r cyhuddiad o ymddygiad amhriodol.