Andy Legg
Mae rheolwr Llanelli, Andy Legg, wedi canmol ei chwaraewyr yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Bangor yn rownd derfynol Cwpan Cymru.

Fe gurodd y Cochion dîm Nev Powell 4-1 ym Mharc y Scarlets er mwyn sicrhau eu lle yng Nghynghrair Europa y tymor nesaf.

Roedd y fuddugoliaeth yn golygu nad yw Bangor wedi cipio’r dwbl – ar ôl ennill Uwch Gynghrair Cymru y penwythnos cynt.

Diwedd ar record Bangor

Daeth record ddiguro Bangor yn y gystadleuaeth i ben ar ôl iddyn nhw ennill Cwpan Cymru dair gwaith yn olynol.

“Mae gan Fangor record wych yn y gwpan ac roedden ni’n gwybod y byddai eu maeddu nhw yn anodd. Ond roedden ni’n ymwybodol y byddai modd ennill pe baen ni’n chwarae’n dda,” meddai Andy Legg.

“Roedd y chwaraewyr yn wych chwarae teg. Maen nhw’n haeddu pob llwyddiant ac maen nhw wedi bod yn chwarae’n dda ers y Nadolig.”