Ryan Giggs
Mae Ryan Giggs wedi cyfaddef nad oedd erioed wedi disgwyl i Man Utd dorri record Lerpwl drwy ennill 18 pencampwriaeth.
Mae angen pwynt ar dîm Syr Alex Ferguson yn eu dwy gêm olaf o’r tymor yn erbyn Blackburn a Blackpool i gipio’r gynghrair am y 19eg tro.
Cyhoeddodd Alex Ferguson mai ei fwriad oedd torri record Lerpwl pan olynodd Ron Atkinson yn 1986.
Dyma fydd y 12fed tro i Ryan Giggs fod yn rhan o dîm sydd wedi ennill Uwch Gynghrair Lloegr.
“Fyddwn i erioed wedi meddwl y byddwn ni wedi gallu cyflawni hyn tua phymtheg i ugain mlynedd yn ôl,” meddai Ryan Giggs.
“Mae’n wych bod y tîm a’r rheolwr wedi gallu symud uwchben ein gelynion mwyaf o’r 1970au, 80au a’r 90au.”
Mae rheolwr Man Utd wedi dweud nad yw’n amau y bydd ei dîm yn sicrhau eu bod nhw’n ennill y pwyntiau sydd eu hangen arnyn nhw yn eu dwy gêm olaf.
“Rwy’n gwybod na fydd y chwaraewyr yn gwneud cawlach ohoni. Fe fyddwn nhw’n cael y pwyntiau sydd eu hangen arnyn nhw,” meddai Alex Ferguson.