Mi gipiodd Bangor Uwch Gynghrair Cymru ar ddiwrnod ola'r tymor yn Ffordd Ffarar
 Mi all Bangor gwblhau’r dwbwl dros y Sul os wnawn nhw guro Llanelli yn ffeinal Cwpan Cymru lawr yn nhre’r sosban.

Mi gipiodd y Dinasyddion Uwch Gynghrair Cymru gyda buddugoliaeth llawn tensiwn yn erbyn tîm llwyr broffesiynol y Seintiau Newydd gartre’ ar Ffordd Ffarar ddydd Sadwrn diwetha’, ac mae nhw wedi ennill Cwpan Cymru dair blynedd yn olynol.

Ac yn ôl llefarydd y clwb mae bechgyn Nev Powell yn llygadu pedwerydd Cwpan Cymru o’r bron.

“Roedd ennill y gynghrair yn beth arbennig iawn i’r clwb ond mae’r hogia’n awyddus i gwblhau’r dwbl,” meddai Huw Pritchard. 

Ychwanega eu bod nhw’n fwy awyddus fyth i sicrhau buddugoliaeth ar ôl colli 5-2 ghartre’ yn erbyn Llanelli ychydig wythnosau yn ôl.   

“Fe gafwyd tipyn o gweir yn erbyn Llanelli yn ddiweddar ac rwy’n credu bod y tîm yn awyddus i dalu’r pwyth yn ôl,” meddai Huw Pritchard. 

“Mae gennym ni record wych i amddiffyn yn y gystadleuaeth ac rwy’n siŵr bod pawb yn canolbwyntio 100% ar y gêm.”

Byddin Bangor i feddiannu Llanelli

Fe fydd rhaid i Fangor deithio lawr i Lanelli ar gyfer y rownd derfynol sy’n cael ei chynnal ym Mharc y Scarlets, cartref rhanbarth rygbi Scarlets Llanelli.  Er bod y gêm ar stepan drws tîm Andy Legg, mae Bangor yn credu eu bod nhw’n ddigon cyfarwydd â chwarae yno ar ôl ennill y ddau rownd derfynol ar Barc y Scarlets. 

“Mae yna fyddin o gefnogwyr yn bwriadu teithio lawr i Lanelli ac ef fydd y rownd derfynol yn bron fel gêm gartref i ni,” meddai Huw Pritchard. 

Byddai sicrhau’r dwbl yn golygu bod Bangor wedi cael un o’u tymhorau gorau yn hanes y clwb, meddai. 

“Yn sicr fe fydd y tymor hwn yn un o’r tymhorau gorau erioed i’r clwb.  Mae’r clwb yn mynd o nerth i nerth ac fe fydd gwell i ddod eto.”