Mae rheolwr Wrecsam wedi cydnabod bod Luton Town yn well tîm, ac yn llawn haeddu eu buddugoliaeth o dair gôl i ddim yng nghymal cynta’r gemau ail-gyfle i gyrraedd y Gynghrair Bêl-droed yn Lloegr.  

Fe ddywedodd Dean Saunders nad yw’n flin gyda’i chwaraewyr, ond yn hytrach yn teimlo trueni drostyn nhw ar ôl eu holl ymdrechion i gyrraedd y gemau ail-gyfle. 

Sgoriodd Luton Town dair gôl yn y 35 munud agoriadol yn y gêm o flaen torf o dros 7,000 ar y Cae Ras, a sicrhau maen nhw yw’r ffefrynnau i fynd ymlaen i’r rownd derfynol ym Manceinion. 

“Doedden ni heb droi fyny i’r gêm.  Fe sgoriodd Luton dair gôl ond fe alla hi wedi bod yn fwy.  R’y ni wedi colli i dîm gwell,” meddai Dean Saunders. 

“Roedden ni wedi chwarae’n well yn yr ail hanner ac fe gafwyd ambell gyfle i sgorio.”

 

Cyfle o hyd?

 

“Nid yw popeth drosodd eto, ond fe fydd rhaid i ni sgorio’r gôl gyntaf yn Luton.  Yn sicr ni fyddwn ni’n chwarae mor wael yr wythnos nesaf,” meddai Dean Saunders.

 

“Mae’n rhaid i mi nawr feddwl sut i godi ysbryd y chwaraewyr a sut ryda ni’n mynd i sgorio tair gôl yn erbyn Luton.

 

“Mae gennym ni bump diwrnod i ddod at ein gilydd a pharatoi i fynd yno gydag agwedd bositif a cheisio mynd ar y blaen.”