Arfbais clwb Queens Park Rangers
 Ni fydd FA Lloegr yn penderfynu tynged Queens Park Rangers heddiw wedi’r cwbwl.

Mae QPR wedi eu cyhuddo o gamymddwyn mewn perthynas â throsglwyddiad Alejandro Faurlin.

Fe allai’r FA dynnu pwyntiau oddi ar QPR, a gallai hynny yn ei dro ffafrio timau Caerdydd ac Abertawe.

Roedd disgwyl i Gymdeithas Bêl-droed Lloegr wneud eu penderfyniad i gosbi’r clwb neu beidio y prynhawn yma, ond maen nhw wedi dweud bod y cyhoeddiad yn cael ei ohirio nes ar ôl y penwythnos. 

Fe fydd hyn yn golygu bod yr awdurdodau yn cael aros i weld sut mae tabl y Bencampwriaeth yn gorffen cyn gwneud eu penderfyniad. 

Nid yw Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi dweud pryd yn union bydd y cyhoeddiad ond mae yna adroddiadau y gallai fod yn ddydd Llun cyn y bydd QPR a gweddill y clybiau sy’n cystadlu yn y gemau ail-gyfle yn cael gwybod. 

Mae’r Gymdeithas wedi dweud na fydd dyddiadau’r gemau ail-gyfle yn newid, beth bynnag fydd canlyniad eu hymchwiliad. 

Pe bai QPR yn colli pwyntiau fe allai Caerdydd neu Abertawe godi i’r ail safle a chipio dyrchafiad awtomatig i’r Uwch Gynghrair.