Jay Bothroyd
Mae ymosodwr Caerdydd, Jay Bothroyd, wedi dweud fod rhaid i’r Adar Glas amddiffyn yn well yn y gemau ail gyfle.

Daeth gobeithion tîm Dave Jones o sicrhau dyrchafiad awtomatig i Uwch Gynghrair Lloegr i ben ar ôl colli 3-0 yn erbyn Middlesborough nos Lun.

Mae’n golygu bod rhaid i Gaerdydd wynebu’r gemau ail gyfle am yr ail dymor yn olynol wrth iddynt gystadlu gydag Abertawe, Reading a Nottingham Forest am le yn yr Uwch Gynghrair.

Ond mae chwaraewyr Lloegr yn credu bod rhaid i’r amddiffyn wella ar ôl gadael i Middlesborough sgorio tair gôl mewn ugain munud.

“Does dim gwahaniaeth pwy yw’r ymosodwyr, does dim modd ennill gemau ar ôl mynd 3-0 ar ei hôl hi wedi 20 munud,” meddai’r ymosodwr.

“Mae ‘n rhaid i ni sicrhau ein bod yn amddiffyn yn well yn y gemau ail gyfle.”