Seintiau Newydd 4 – 3 Llanelli (ar ôl amser ychwanegol)
Wedi’r siom o golli coron Uwch Gynghrair Cymru ddydd Sadwrn, fe godwyd calonnau cefnogwyr y Seintiau newydd wrth iddyn nhw godi tlws Cwpan Loosmores ddoe.
Roedd rownd derfynol cwpan y gynghrair yn cael ei chwarae ar faes Coedlen y Parc yn Aberystwyth ac fe gafodd y dorf fodd i fyw gyda saith gôl a’r canlyniad yn cael ei benderfynu ym munud olaf amser ychwanegol.
Cwta 48 awr oedd wedi pasio ers i obeithion y Seintiau o gipio’r Uwch Gynghrair gael eu chwalu gan Fangor ar Ffordd Ffarar. Er hynny, bydd tîm Mike Davies yn teimlo rywfaint yn hapusach ar ôl cipio cwpan y gynghrair am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Seintiau’n arwain
Gyda nifer o chwaraewyr profiadol wedi’u hanafu, bu’n rhaid i’r Seintiau droi at rai o’r chwaraewyr ar gyrion y tîm cyntaf gan gynnwys y chwaraewyr ifanc Connell Rawlinson a Marcus Giglio.
Er hynny, nhw oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf a hwy aeth ar y blaen ddwy funud cyn hanner amser gyda gôl i Aeron Edwards.
Daeth cyfleoedd i Lanelli yn fuan yn yr ail hanner wrth iddyn nhw fanteisio ar y gwynt cryf. Aeth Jordan Follows yn agos gydag un ergyd oedd yn anelu am gornel uchaf y rhwyd, ond fe’i harbedwyd yn wych gan Paul Harrison.
Roedd Llanelli’n credu eu bod yn gyfartal yn fuan wedyn wrth i’r chwaraewr-reolwr Andy Legg hyrddio un o’i dafliadau hir nodweddiadol am y gôl. Methodd unrhyw un a chyffwrdd y bêl wrth iddi lanio yn y rhwyd gan olygu na ellid caniatáu’r gôl.
Wedi 73 munud roedd y Seintiau ddwy ar y blaen wrth i seren y gêm, Chris Sharp rwydo o bas Aeron Edwards.
Er hynny, tarodd Llanelli nôl tair munud yn ddiweddarach wrth i Chris Holloway benio i’r rhwyd o groesiad Jason Bowen.
Deng munud olaf gwallgof
Gyda thair munud yn weddill, roedd hi’n edrych fel petai’r gêm ym mynd i amser ychwanegol wrth i Craig Moses sgorio i ddod â’r sgôr yn gyfatal, ond roedd mwy i ddod.
Gyda dim ond munud yn weddill, sgoriodd Sharp ei ail o’r gêm gyda pheniad o groesiad Craig Jones ond yna sgoriodd Llanelli eto yn y funud olaf un – ergyd ugain llath Jordan Follows yn crymanu i’r rhwyd.
Wedi ugain munud llawn drama a goliau, roedd y deg ar hugain munud o amser ychwanegol yn ddi-sgôr nes y funud olaf un.
Roedd y dorf yn paratoi eu hunain am gyffro ciciau o’r smotyn, ond roedd syniadau eraill gan Scott Ruscoe wrth i’w ergyd wych wibio heibio i Ashley Morris yn y gôl i Lanelli gyda chwta 14 eiliad ar ôl i’w chwarae.