Y dathlu - o wefan y clwb
Bae Colwyn 1 FC United 0
Fe lwyddodd Bae Colwyn i godi i chweched lefel pêl-droed Lloegr wrth guro FC United yng ngêm ail gyfle derfynol Cynghrair Evo-Stik.
Mae’n golygu y bydd y Gwylanod bellach yn chwarae yn adran ogleddol Cynghrair y Blue Square diolch i gôl ar ôl tua 69 munud gan John Newby.
Roedd hynny o flaen 2,000 o bobol yn Ffordd Llanelian – gyda channoedd yn rhagor yn gwylio o’r llethrau y tu ôl i’r cae.
Y tymor nesa’ fe fyddan nhw yn y gynghrair sydd un yn is na Wrecsam a Chasnewydd ar hyn o bryd.
FC United oedd wedi gwneud y rhan fwya’ o’r pwyso gyda Bae Colwyn yn fodlon amddiffyn a gwrthymosod, gan gryfhau wrth i’r gêm fynd yn ei blaen.
Yn ei dymor cynta’ gyda’r clwb, roedd y rheolwr Dave Challinor wrth ei fodd – doedd neb wedi dychmygu y bydden nhw’n llwyddo cystal, meddai.