Dave Jones - cweir annisgwyl
Caerdydd 0 Middlesborough 3

Fe fydd rhaid i Gaerdydd ddibynnu ar gosb fawr i QPR neu ennill dyrchafiad trwy’r gêmau ail gyfle ar ôl un o’u perfformiadau gwaetha’ yn y Bencampwriaeth.

Wrth i Norwich ennill o 1-0 yn Portsmouth i sicrhau dyrchafiad uniongyrchol, fe chwalodd Caerdydd o fewn 21 munud gartre’ yn erbyn Middlesborough.

Erbyn hynny, roedden nhw dair gôl ar ei hôl hi a doedd gwaith caled na newidiadau mawr hanner amser ddim yn ddigon i roi trafferth i’r ymwelwyr.

‘Amddiffyn gwirion’

Ar ôl y gêm, fe ddywedodd y rheolwr, Dave Jones, bod diffyg disgyblaeth wedi colli’r gêm iddyn nhw – roedd rhaid ennill i barhau’r gystadleuaeth am ddyrchafiad uniongyrchol.

“Wn i ddim ai nerfau oedd o neu be,” meddai Dave Jones. “Ond doedden ni ddim yn disgwyl hyn. Wnaethon nhw ddim cystadlu, ac anaml iawn yr ydw i wedi dweud hynny am y grŵp yma o chwaraewyr.

“Mi aethon ni o amddiffyn gwych yn erbyn Preston ddydd Llun i amddiffyn gwirion yn erbyn Middlesborough.”

Norwich yn ennill

Ychydig oriau wedi i Gaerdydd golli, wnaeth Norwich ddim camgymeriad yn Fratton Park, gyda’r unig gôl yn dod oddi wrth Simeon Jackson ar ôl 50 munud,

Roedden nhw wedi cael cyfleoedd da eraill ar ddechrau’r naill hanner a’r llall ac, er bod Portsmouth wedi chwarae’n galed, doedd dim llawer o amheuaeth am y canlyniad.

Unig obaith Caerdydd am ddyrchafiad uniongyrchol bellach yw bod QPR yn cael cosb drom iawn am gamymddwyn tros arwyddo chwaraewr ac yn colli 10 pwynt neu debyg.

Y gemau ail gyfle

Fel arall, fe fydd Caerdydd yn chwarae cymal cyntaf eu gêm ail gyfle gyntaf oddi cartre’ ddydd Iau neu ddydd Gwener yr wythnos nesa’.