Yr Adar Glas
Mae golwr Caerdydd, Tom Heaton wedi dweud ei fod yn gobeithio bod carfan yr Adar Glas wedi dysgu gwersi o’r siom maen nhw wedi ei phrofi yn y Bencampwriaeth – wrth iddyn nhw geisio rhoi’r pwysau ar Norwich heno.
Fe fydd tîm Dave Jones yn gobeithio am fuddugoliaeth yn erbyn Middlesborough yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno yn y gobaith o godi i’r ail safle hollbwysig yn yr adran.
Mae Caerdydd wedi gorffen eu dau dymor olaf mewn siom ar ôl colli allan ar safleoedd y gemau ail gyfle ar ddiwrnod olaf y tymor yn 2009 a cholli yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn erbyn Blackpool llynedd.
Ond mae Heaton yn credu bod y profiadau hynny wedi ychwanegu at benderfyniad yr Adar Glas i lwyddo eleni.
“Rydych chi wastad yn gobeithio gallu dysgu o’ch camgymeriadau ym mhêl droed. Rwy’n gobeithio bod y garfan wedi dysgu o’r hyn ddigwyddodd yn erbyn Sheffield Wednesday dwy flynedd ‘nôl ac yn erbyn Blackpool llynedd,” meddai Tom Heaton.
“Mae yna’n dal lawer o chwaraewyr yma a oedd yn rhan o’r carfannau yna, ac rwy’n gobeithio gallwn ni ddysgu o’r profiadau yna. Rwy’n credu bod y penderfyniad sydd gennym i gymryd y cam nesaf wedi bod yn amlwg yn ein perfformiadau dros y chwech i saith gêm olaf.
“Mae pobl yn gwybod beth sydd i’w gyflawni a does neb am fynd trwy’r un siom o golli allan unwaith eto.”
Mae Tom Heaton yn credu bydd Caerdydd yn ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair un ffordd neu’r llall y tymor hwn- boed hynny trwy orffen yn ail neu trwy’r gemau ail gyfle.
Dim ofn
Mae rheolwr Norwich, Paul Lambert wedi dweud ei fod yn disgwyl ei chwaraewyr i chwarae heb unrhyw ofn er gwaethaf pwysigrwydd y ddwy gêm olaf o’r tymor arferol.
Fe fydd y Canaries yn wynebu Portsmouth yn Fratton Park heno cyn croesawu Coventry i Carrow Road dydd Sadwrn.
Nid yw Paul Lambert yn credu bydd y pwysau sydd ar eu chwaraewyr yn effeithio ar eu perfformiadau.
“Nid wyf yn credu bod dim ofn yna. Maen nhw’n chwarae gyda rhyddid ac awch i ennill gemau. R’y ni ond dwy gêm ennill dyrchafiad- mae’r tymor yma wedi bod yn anhygoel,” meddai rheolwr Norwich.