Mae Abertawe yn dal gyda mymryn o obaith am ddyrchafiad awtomatig i’r Uwch Gynghrair ar ôl buddugoliaeth dda ym Millwall y prynhawn yma.

Ar ôl gôl yn yr hanner cyntaf gan Darren Pratley ac un arall gan Stephen Dobbie yn yr ail hanner, roedd yr Elyrch llawn haeddu eu llwyddiant. Fe fu Scott Sinclair hefyd yn agos i sgorio gôl arall o fewn munudau i’r diwedd.

Fe all tîm Brendan Rodgers ddal i gael yr un nifer o bwyntiau â Norwich – sy’n chwarae Portsmouth ddydd Llun.

Yn y cyfamser mae QPR wedi sicrhau eu lle fel pencampwyr y gynghrair ar ôl curo Watford 2-0.

Yr unig beth a allai eu rhwystro nhw rhag dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair fyddai colli pwyntiau fel cosb yn sgil cyhuddiadau ynghylch y ffordd y maen nhw wedi cofrestru’r chwaraewr canol cae o’r Ariannin, Alejandro Faurlin.

Fe fydd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr yn penderfynu ar y mater ddydd Gwener nesaf. Pe bai pwyntiau’n cael eu tynnu oddi arnyn nhw, fe allai fod yn newydd da i Abertawe a hefyd i Gaerdydd a fydd yn chwarae Middlesburgh nos Lun.