Bae Colwyn yn dathlu (o wefan y clwb)
Bae Colwyn 2 North Ferriby United 0

Fe fydd Bae Colwyn yn chwarae am le ar chweched lefel pêl-droed Lloegr yn erbyn clwb protest o Fanceinion.

Neithiwr, fe lwyddodd y Bae i guro North Ferriby United gartre yn rownd gynderfynol gêmau ail gyfle Cynghrair Evo-stik – yr hen Northern Premier.

Ddydd Llun, fe fyddan nhw’n wynebu FC United, y tîm cymunedol a gafodd ei greu gan gefnogwyr Manchester United a oedd yn anhapus gyda chyfeiriad y prif glwb.

Fe enillodd Bae Colwyn ac FC United eu gêmau o 2-0 ond does dim gwybodaeth eto ble bydd y rownd derfynol.

Pe bai Bae Colwyn yn ennill, ar ôl dod yn ail yng Nghynghrair Evo-stik, fe fydden nhw’n codi i Adran y Gogledd o Gynghrair y Blue Square, un lefel yn is na’r gynghrair lle mae Wrecsam a Chasnewydd ar hyn  o bryd.