Scott Sinclair - gorffwys yn erbyn Ipswich
Mae rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers wedi dweud bod rhaid iddo reoli blinder rhai o’i chwaraewyr wrth i’r gêmau ail gyfle agosáu.

Gyda dwy gêm ar ôl o’r tymor arferol, mae’r Elyrch yn wynebu un neu ddwy ychwanegol wrth geisio gyrraedd yr Uwch Gynghrair.

Roedd Brendan Rodgers wedi gorffwyso prif sgoriwr y clwb, Scott Sinclair yn erbyn Ipswich ddydd Llun yn dilyn tymor hir i’r asgellwr.

“Mae’n dangos y cryfder sydd gyda ni pan mae Scott Sinclair yn dod oddi ar y fainc,” meddai Rodgers. “Roedd Scott ychydig yn flinedig yn erbyn Ipswich.

“Rwy’n adnabod Scott ers blynyddoedd a dyma’i dymor cyntaf o chwarae gêmau llawn.  Mae’n rhaid i mi reoli ei flinder fel rwy’n gwneud gyda Joe Allen”

“Maen nhw’n chwaraewyr talentog ac fe allen ni eu chwarae nhw bob munud  o bob gêm.  Ond mae’n rhaid i mi reoli eu datblygiad.”

Newyddion y tîm

Mae disgwyl i ddau o chwaraewyr Abertawe, Fabio Borini a Mark Gower fod ar gael i’r Elyrch ar gyfer y gêm yn erbyn Millwall ddydd Sadwrn.

Roedd Gower wedi colli’r gêm yn erbyn Ipswich ddydd Llun oherwydd anaf i’w bigwrn tra bod Borini wedi gorfod gadael y cae yn ystod y fuddugoliaeth o 4-1.

“Roedd gan Fabio ychydig o chwyddi uwchben ei bigwrn. Fe allai fod wedi parhau i chwarae, ond roedd yn gyfle da iddo gael gorffwys,” meddai rheolwr Abertawe.

Mae ymosodwr ar fenthyg Abertawe, Tamas Priskin, wedi dychwelyd i Ipswich ar ôl anafu ei ben-glin wrth ymarfer.  Fe fydd Priskin allan am tua chwe wythnos.