Jack Collison
Mae disgwyl i chwaraewr West Ham a Chymru, Jack Collison, ddod yn ôl i chwarae i’w glwb wedi absenoldeb o 14 mis.

Roedd y Cymro’n rhan allweddol o dîm yr Hammers y tymor diwethaf ond fe gafodd anaf difrifol i’w benglin wrth chwarae i Gymru ym mis Mawrth y llynedd.

Fe fydd Collison yn chwarae i ail dîm West Ham yn erbyn Wolves heddiw ac os da trwy’r gêm yna heb unrhyw broblemau fe allai fod yn rhan o garfan y prif dîm ddydd Sul yn erbyn Manchester City.

Fe fyddai dychweliad y Cymro yn hwb mawr i ganol cae tîm Avram Grant wrth frwydro i aros yn yr Uwch Gynghrair, gan fod Scott Parker wedi colli’r ddwy gêm olaf aGary O’Neill a Mark Noble wedi anafu.

Ledley allan

Fe fydd chwaraewr Celtic a Chymru, Joe Ledley, yn colli gweddill y tymor ar ôl dioddef anaf i linyn y gar.

Roedd Ledley eisoes wedi bod allan am gyfnod gydag anaf i’w gyhyr, ond fe ddychwelodd yn erbyn Rangers ar y penwythnos.

Fe fu’n rhaid iddo adael y cae wedi 54 munud ac fe fydd yn awr yn colli gêmau Cymru yng Ngwpan y Cenhedloedd yn erbyn yr Alban a Gogledd Iwerddon ddiwedd y mis nesaf.