Dave Jones, rheolwr Caerdydd
Mae rheolwr QPR, Neil Warnock, wedi dweud bod pwysau mawr ar Gaerdydd i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn ei dîm ar y penwythnos.

Fe allai QPR sicrhau eu bod nhw’n cael eu dyrchafu i Uwch Gynghrair Lloegr gyda buddugoliaeth yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn.

Ond mae’r Adar Glas yn benderfynol o gipio’r pwyntiau llawn a dal eu gafael ar ail safle yn y Bencampwriaeth.

Dywedodd Neil Warnock y bydd cefnogwyr Reading, Norwich ac Abertawe yn taflu eu pwysau y tu ôl i QPR ddydd Sadwrn.

Byddai angen i Gaerdydd golli gêm fel eu bod nhw’n gallu cymryd yr ail safle a sicrhau dyrchafiad awtomatig i Uwch Gynghrair Lloegr.

“Mae’n mynd i fod yn gêm arbennig ac fe fyddwn ni’n targedu buddugoliaeth yno. Fe fydd gennym ni gefnogaeth rhai o glybiau eraill yr adran hefyd,” meddai Neil Warnock.

“Mae’n beth da ein bod ni’n wynebu tîm fydd yn mynd amdani yn hytrach na rhoi deg chwaraewr rhyngom ni a’r gôl.

“Mae ymosodwyr Caerdydd ymysg y gorau yn y Bencampwriaeth. Mae’n llawer gwell na nifer o glybiau’r Uwch Gynghrair.

“Ond fe fydd rhaid i Gaerdydd ein curo ni gan fod Reading a Norwich yn dynn ar eu sodlau.”