d
Mae amddiffynnwr ifanc Abertawe, Daniel Alfei, wedi  arwyddo cytundeb tair blynedd newydd gyda’r clwb.

Fe fydd y Cymro 19 oed sydd yn aros yn Stadiwm Liberty tan 2014 ar ôl gwneud argraff ar yr hyfforddwr Brendan Rodgers.

Fe ddaeth Alfei i’r amlwg ar ôl cael ei enwi’n seren y gêm wrth chwarae i’r Elyrch am y tro cyntaf yng Nghwpan yr FA yn erbyn Coltchester United ym mis Ionawr.

“Rydw i’n barod i roi cyfle i chwaraewyr ifanc os ydyn nhw’n ymroi yn llwyr i’r clwb,” meddai Brendan Rodgers.

“Dros amser fe fydd yn datblygu i fod yn chwaraewr da iawn ac mae ganddo’r rhinweddau i wneud hynny.”

Dywedodd Daniel Alfei wedi dweud ei fod wrth ei fodd bod Abertawe wedi cynnig cytundeb newydd iddo.

“Mae’n braf gwybod bod gan y clwb ffydd ynof i,” meddai Daniel Alfei.

“Yn fy marn i does yna ddim lle gwell i gael i chwarae pêl droed.  Rwy’n creu fy mod i wedi gwella llawer wrth ymarfer gyda chwaraewyr o safon sydd yn y garfan.

“Mae’r rheolwr wedi bod o gymorth mawr hefyd. Mae’n rhoi cyngor defnyddiol i fi o hyd.

“Mae’n gyfnod cyffrous i fod yn rhan o’r clwb ac rwy’n edrych ymlaen at y dyfodol.”