Jlloyd Samuel
Mae amddiffynnwr Caerdydd, Jlloyd Samuel, wedi dweud mai Caerdydd yw’r tîm orau am ymosod yn y Bencampwriaeth.

Mae’r chwaraewr sydd ar fenthyg gan Bolton wedi chwarae tair gêm i’r Adar Glas ac wedi mwynhau buddugoliaethau ym mhob un o’r gemau hyd yn hyn.

“Rydw i wedi dod yma i ennill gemau a gobeithio sicrhau dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.  Mae’n rhaid i ni barhau i ennill. Mae’r cyfan yn ein dwylo ni nawr,” meddai Jlloyd Samuel.

“Mae yna chwaraewyr gwych yma ac mae yna ysbryd ardderchog o fewn y tîm hefyd.  Mae’r rheolwr yn gwybod beth mae e moyn oddi wrth y tîm ac mae’n rhoi pwysau arnom ni i sgorio goliau.

“Rydyn ni’n gallu sgorio goliau ac mae’n siŵr mai ni yw’r tîm gorau yn yr adran wrth ymosod.”

QPR

Fe fydd Caerdydd yn herio QPR yn Stadiwm Dinas Caerdydd y penwythnos nesaf mewn gêm fydd yn allweddol i’r Adar Glas os ydyn nhw am ddal gafael ar yr ail safle hollbwysig.

Mae’r amddiffynnwr yn ymwybodol o’r pwysau sydd ar y garfan ond dywedodd y bydd rhaid iddyn nhw arfer â hynny os yw’r clwb am chwarae ar y lefel uchaf.

“Fe fydd y gêm yn erbyn QPR yn gyffrous. Pan fyddwn ni yn yr Uwch Gynghrair bydd rhaid chwarae timau o safon QPR bob wythnos,” meddai Jlloyd Samuel.