Mae dau o chwaraewyr Abertawe, Ashley Williams a Scott Sinclair, wedi cael eu henwi yn Nhîm y Flwyddyn y Bencampwriaeth. 

 Roedd yr 11 chwaraewr gorau yn cael eu dewis gan eu cyd-chwaraewyr ac fe gyhoeddwyd y canlyniad mewn seremoni wobrwyo flynyddol yn Llundain neithiwr. 

 Mae Scott Sinclair wedi bod yn ddylanwad mawr ar yr Elyrch ers ymuno wrth Chelsea dros yr haf ac mae wedi sgorio 22 gôl i’r clwb hyd yn hyn. 

 Mae Ashley Williams wedi bod yn ffigwr allweddol yn amddiffyn Abertawe’r tymor hwn, ac mae rheolwr yr Elyrch, Brendan Rodgers wedi dweud bod y Cymro’n “un o’r amddiffynwyr gorau yn yr adran.”

 Fe gafodd chwaraewr canol cae Cymru, Andy King hefyd ei ddewis ymysg yr 11 gorau yn dilyn tymor llwyddiannus gyda Chaerlŷr. 

 Chafodd yr un aelod o dîm Caerdydd eu dewis yn Nhîm y Flwyddyn. 

 Tîm y Flwyddyn y Bencampwriaeth

 Paddy Kenny (QPR), Kyle Naughton (Leicester – ar fenthyg wrth Spurs), Ian Harte (Reading), Ashley Williams (Abertawe), Wes Morgan (Nottingham Forest), Adel Taarabt (QPR), Scott Sinclair (Abertawe), Andy King (Caerlŷr), Wes Hoolahan (Norwich), Danny Graham (Watford), Grant Holt (Norwich).