Gareth Bale
Y Cymro, Gareth Bale, sydd wedi ennill teitl Chwaraewr y Flwyddyn mewn pleidlais gan ei gyd chwaraewyr.

Ac yntau’n ddim ond 21 oed, mae’n un o’r chwaraewyr ieuenga’ i ennill y teitl, a hynny ar ôl tymor ardderchog i’w glwb Tottenham Hotspur.

Fe ddaeth i sylw’r byd ym Mhencampwriaeth Ewrop wrth sgorio hatric yn erbyn Inter Milan ac mae ei reolwr, Harry Redknapp, wedi dweud ei fod yn un o chwaraewyr gorau’r byd yn ei safle, yn ymosod ar y chwith.

“Dw i’n fwy na balch,” meddai, ar ôl derbyn y wobr. “Mae’n wobr anferth ac yn anrhydedd fawr i’w derbyn, yn enwedig gan gyd chwaraewyr proffesiynol.”

Ef yw’r pedwerydd Cymro i dderbyn y wobr – y lleill yw Ian Rush, Mark Hughes a Ryan Giggs ac fe gurodd chwaraewyr fel Carlos Tevez o Manchester City.

Roedd Bale ar y rhestr fer am Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn hefyd ond fe aeth y teitl hwnnw i chwaraewr Arsenal, Jack Wilshere.