Fabio Borini - doedd ei gôl ddim yn ddigon i achub Abertawe heddiw
Mae gobeithion Abertawe am ddyrchafiad wedi dioddef ergyd arall ar ôl colli yn Burnley y prynhawn yma.
Mae’r Elyrch bum pwynt y tu ôl i Gaerdydd bellach, gyda phedair gêm ar ôl.
Roedd Fabio Borini wedi llwyddo i roi Abertawe ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner, gyda’i bedwaredd gôl mewn pum gêm ers pan mae ar fenthyg o Chelsea.
Ond ddau funud yn ddiweddarach, collodd yr Elyrch eu mantais wrth i gamgymeriad Ashley Williams arwain at sgorio gôl yn erbyn ei dîm ei hun.
A chwarter awr cyn y diwedd, llwyddodd Chris Eagle i roi Burnley ar y blaen gyda chic o’r smotyn ar ôl i Angel Rangel droseddu yn erbyn Jay Rodriguez.
Hwn oedd y pedwerydd tro’n olynol i Abertawe golli gêm oddi cartref.