Jay Bothroyd, a sgoriodd ail gôl y gêm
Mae dyrchafiad awtomatig o gynghrair Pencampwriaeth npower o fewn cyrraedd Caerdydd unwaith eto heno ar ôl buddugoliaeth gyffyrddus yn erbyn Portsmouth.

Ar ôl buddugoliaeth 2-1 Norwich yn erbyn Nottingham Forest neithwr, fe aeth yr Adar Glas i’r gêm gan wybod bod arnyn nhw angen tri phwynt i’w codi i’r ddau safle uchaf.

Roedd eu llwyddiant yn gwbl haeddiannol ar ôl perfformiad rhagorol a phenderfynol o’r dechrau gan y tîm.

O fewn wyth munud roedd Craig Bellamy wedi creu cyfle i Seyi Olofinjana sgorio gôl gynta’r gêm. Ddeng munud yn ddiweddarach cafodd ymdrechion Pompey eu llesteirio wrth ddod i lawr i ddeg dyn ar ôl i Ricardo Rocha gael cerdyn coch.

Manteisiodd yr Adar Glas ar hyn gyda gôl gan Jay Bothroyd ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Fe dawelodd pethau fymryn yn yr ail hanner fel petai’r tîm cartref yn fodlon ar gynnal eu meddiant o’r bêl, er iddyn nhw geisio manteisio ar ambell i gyfle.

Cafodd yr Adar Glas eu trydedd gôl wedi 73 munud pryd y dangosodd Bellamy fflach o athrylith i gael y bêl i Peter Whittingham, a sgoriodd ei ddegfed gôl o’r tymor a sicrhau’r tri phwynt holl bwysig i’w dîm.