Dave Jones yw rheolwr Caerdydd
Mae rheolwr Caerdydd wedi dweud bod angen i’w dîm barhau i weithio’n galed wrth iddyn nhw geisio dal eu gafael ar yr ail safle holl bwysig yn y Bencampwriaeth. 

Fe fydd yr Adar Glas yn wynebu Portsmouth yn Stadiwm Dinas Caerdydd yfory ac mae Jones yn gwybod bod y ras i ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr ymhell o fod drosodd. 

“Yr un peth sydd heb newid gyda ni yn ystod y tymor yw bod y chwaraewyr wastad wedi gweithio’n galed, sydd wedi helpu ni i gyrraedd y pwynt yma,” meddai Dave Jones. 

“Ond rydym ni gyd yn gwybod ei fod y tabl yn dynn iawn ac mae ‘na ffordd bell i fynd eto.

“Mae yna bum gêm i chwarae ac fe fydd rhaid i’r gwaith caled parhau.  Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar yr hyn ryda ni’n ceisio cyflawni.

“Fe fyddwn ni’n gwneud popeth yn ein gallu i gynnal ein safle am ddyrchafiad awtomatig.  Rydym ni wedi bod yn cwrso’r ail safle ers tipyn o amser.

“Mae’r chwaraewyr i gyd yn awyddus i sicrhau llwyddiant i Gaerdydd ac mae gennym ni siawns dda os gallwn ni gynnal ein safonau.

“Ond mae pawb yn aros yn broffesiynol a ddim yn cymryd dim byd yn ganiataol.”

Dim ond o bwynt mae Caerdydd yn arwain Norwich sy’n drydydd, a dau o flaen Abertawe sydd yn y bedwerydd yn y Bencampwriaeth. 

Mae ganddyn nhw gemau cartref yn erbyn Portsmouth, QPR a Middlesborough i chwarae eto yn ogystal â theithiau i Preston a Burnley.