Mae rheolwr y Seintiau Newydd wedi dweud bod tymor y Seintiau Newydd yn bell o fod drosodd, er iddyn nhw golli i Lanelli yn rownd cyn derfynol Cwpan Cymru’r penwythnos diwethaf.

Fe ddaeth tîm Andy Legg a gobeithion y Seintiau Newydd o ennill y trebl i ben gyda buddugoliaeth 1-0 ar Goedlan y Parc yn Aberystwyth.

Ond mae’r Seintiau yn dal i fod ar frig tabl Uwch Gynghrair Cymru ac yn rownd derfynol Cwpan y Gynghrair.

Fe fydd sylw tîm Park Hall yn troi ‘nôl at y bencampwriaeth heno pan fyddan nhw’n wynebu Prestatyn. 

“Yn amlwg mae’n siomedig i golli yn y rownd cyn derfynol, ond mae gennym ni lawer i chwarae amdano eto,” meddai Mike Davies.

“Pe byddai rhywun wedi cynnig y sefyllfa yma i mi ym mis Ionawr fe fydden i’n sicr o fod wedi’i dderbyn.”

Mae’r Seintiau Newydd wedi derbyn hwb gyda’r newyddion bod yr asgellwr dylanwadol, Richie Partridge, yn dychwelyd wedi absenoldeb oherwydd anaf. 

Ond fe fydd Connell Rawlinson, Chris Marriott ac Alex Darlington yn absennol oherwydd anafiadau.

Fe fydd Prestatyn, sy’n chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yn erbyn y Seintiau Newydd yn Uwch Gynghrair Cymru, heb eu hymosodwr Lee Hunt oherwydd gwaharddiad.