Mae capten Abertawe, Garry Monk wedi galw ar yr Elyrch i wella ar eu record oddi cartref wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Burnley yn Turf Moor yfory. 

 Mae tîm Brendan Rodgers wedi colli oddi cartref yn eu tair gêm olaf yn erbyn Derby, Scunthorpe a Preston. 

 Ond mae Monk yn gwybod bod Abertawe angen rhediad da yn eu pum gêm olaf o’r tymor er mwyn cyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr. 

 Mae tair o’r pum gêm olaf oddi cartref gyda thripiau i Portsmouth a Millwall i ddilyn y gêm yn erbyn Burnley. 

 “Rydym ni wedi symud pwynt yn nes i le’r ydym ni am fod yn dilyn y gêm yn erbyn Hull, er bod ni am sicrhau’r pwyntiau llawn,” meddai Garry Monk. 

 “Rydym ni ond dau bwynt oddi ar yr ail safle ac yn dal i ymladd.  Fe allai unrhyw beth ddigwydd rhwng nawr a diwedd y tymor.

 “Rydym ni wedi cael ambell berfformiad oddi cartref da’r tymor hwn, ond yn amlwg mae’r tair gêm olaf heb fynd ein ffordd ni.

 “Mae’r neges i’r chwaraewyr yn un syml – mae’n rhai i ni wella ein record oddi cartref a dechrau sicrhau’r pwyntiau.

 “Dyna’r agwedd sydd angen arnom.  Rwy’n credu ein bod yn ddigon da i wneud hynny.”