Dave Jones, rheolwr Caerdydd
Mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones, yn dweud bod yr Adar Glas wedi cymryd cam yn nes at ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair gyda buddugoliaeth yn erbyn Sheffield Utd. 

Fe sgoriodd Craig Bellamy a Jay Emmanuel-Thomas y goliau i Gaerdydd wrth iddynt symud lan i’r ail safle yn y tabl yn dilyn eu buddugoliaeth yn Bramall Lane. 

“Ry’n ni wedi cymryd cam yn nes ac ry’n ni wedi gweithio’n galed i gyrraedd y safle yma,” meddai Dave Jones. 

“Roedden ni’n ddidostur a chlinigol yn erbyn Sheffield Utd.  Roedd pawb wedi gweithio’n galed iawn gyda phob un yn chwarae eu rhan yn y fuddugoliaeth.”

Roedd Dave Jones yn falch bod eu chwaraewyr wedi dangos eu bod nhw’n gallu brwydro’n galed cyn i’w doniau ymddangos yn erbyn Sheffield Utd. 

Roedd rheolwr Caerdydd yn hapus iawn gyda pherfformiad ei gapten Craig Bellamy yn enwedig.   

“Roedd Craig wedi arwain o’r blaen.  Mae’n siŵr ei fod wedi rhedeg 100 milltir.  Roedd sawl chwaraewr yn cael trafferthion i ddal fyny ag ef,” meddai Jones.