Mae QPR yn wynebu colli pwyntiau yn y Bencampwriaeth ar ôl cael eu cyhuddo o dorri rheolau trosglwyddo Cymdeithas Bêl-droed Lloegr.

Mae QPR wedi eu cyhuddo o dorri’r rheolau wrth brynu’r Archentwr, Alejandro Faurlin, o Instituto de Cordoba am £3.4 miliwn yn 2009.

Mae cadeirydd QPR, Gianni Paladini, hefyd wedi ei gyhuddo o anfon dogfennau ffug at y gymdeithas pan ymestynnodd Faurlin ei gytundeb ym mis Hydref y llynedd.

Mae’r clwb wedi dweud eu bod nhw’n ddieuog o’r cyhuddiadau yn eu herbyn nhw a’r cadeirydd.

Pe bai QPR yn euog fe allen nhw golli pwyntiau yng nghynghrair y Bencampwriaeth, meddai Cymdeithas Bêl droed Lloegr.

Hwb i glybiau Cymru

Fe fyddai hynny’n hwb i obeithion Caerdydd ac Abertawe o ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.

Mae’r Elyrch yn ail yn y tabl, saith pwynt y tu ôl i QPR sydd ar y brig. Mae’r Adar Glas naw pwynt ar ei hol hi i QPR.

Mae’r cyhuddiadau yn debyg i’r achos yn erbyn West Ham adeg trosglwyddo Carlos Tevez i’r clwb yn 2006.

Bu’n rhaid i West Ham dalu dirwy o £5.5 miliwn i Sheffield Utd ar ôl i Tevez gadw’r Hammers yn Uwch Gynghrair Lloegr ar draul Sheffield Utd.

Roedd rheolwr presennol QPR, Neil Warnock, yn rheoli Sheffield Utd ar y pryd ac roedd yn feirniadol iawn o West Ham.

Fe blediodd West Ham yn euog i’r cyhuddiadau ac ni wnaethon nhw golli pwyntiau.

Ond gan fod QPR yn gwadu’r cyhuddiadau fe allai eu cosb hwy fod yn llymach na’r hyn gafodd West Ham, pe baen nhw’n euog.