Martin Olsson (Llun oddi ar wefan www.swanseacity.net)
Mae pryderon am ffitrwydd cefnwr chwith tîm pêl-droed Abertawe, Martin Olsson sydd wedi anafu llinyn y gâr.

Collodd Abertawe o 2-0 yn erbyn Man U yn Stadiwm Liberty, sy’n golygu eu bod nhw allan o Gwpan Carabao – neu gwpan y gynghrair.

Ac fe gafodd Martin Olsson ei orfodi o’r cae yn yr hanner cyntaf ar ôl cael ei anafu.

Ar ôl i’r Elyrch werthu Neil Taylor a Stephen Kingsley ers dechrau’r tymor, mae’n golygu mai dim ond Kyle Naughton, sy’n gefnwr de, a Sam Clucas, y chwaraewr canol cae, sydd ar gael i chwarae yn safle’r cefnwr chwith.

Ac fe fydd yr Elyrch yn gwybod yn ddiweddarach heddiw am ba hyd fydd Martin Olsson allan pan fydd e’n cael sgan ar ei goes.

Dywedodd Paul Clement ar ôl y gêm: “Dw i ddim yn gwybod am Martin eto – dw i ddim wedi siarad â fe na’r staff meddygol.

“Os nad yw e’n iawn ar gyfer y penwythnos, mae gyda ni’r opsiwn o chwarae Naughton neu gall Clucas fynd i’r safle hwnnw.”

‘Mae’r freuddwyd ar ben’

Gall Abertawe ganolbwyntio ar y gynghrair am y tro ar ôl iddyn nhw fynd allan o Gwpan Carabao.

Mae’r Elyrch yn bymthegfed yn y tabl, ond maen nhw ar yr un nifer o bwyntiau ag Everton, sy’n ddeunawfed ac yn y safleoedd disgyn.

Ar ôl y siom o golli neithiwr, dywedodd y capten ar y noson, Angel Rangel: “Mae’r freuddwyd ar ben am flwyddyn arall.

“Nawr gallwn ni ganolbwyntio ar y gynghrair a cheisio cael rhywbeth allan o’r gêm yn Arsenal ddydd Sadwrn.”