Abertawe 0–2 Man U    
                                                                    

Sgoriodd Jesse Lingard ddwy waith wrth i Man U ddod â rhediad Abertawe yn y Cwpan Cynghrair i ben gyda buddugoliaeth ar y Liberty nos Fawrth.

Sgoriodd yr ymwelyr unwaith ym mhob hanner wrth ennill y gêm bedwaredd rownd yn gymharol gyfforddus.

Sgoriodd Lingard ei gyntaf wedi ugain munud o chwarae, yn gorffen yn daclus yn dilyn cyffyrddiad deheuig Marcus Rashford i’w lwybr.

Dyblodd Lingard fanatis yr ymwelwyr toc cyn yr awr gyda phendiad da o bymtheg llath yn dilyn pêl hir Matteo Darmian ac fe brofodd hynny’n ddigon i roi deiliaid y gystadleuaeth yn yr wyth olaf.

.

Abertawe

Tîm: Nordfeldt,Rangel, van derHoorn, Mawson, Olsson (Naughton 39’), Ki Sung-yueng, Mesa (Fer 67’), Routledge, Clucas, Ayew, McBurnie (Abraham 72’)

Cardiau Melyn: Rangel 38’, Clucas 56’, Ki Sung-yueng 70’

.

Man U

Tîm: Romero, Lindelof, Smalling, Tuanzebe, Darmian, Herrera (Matic 67’), McTominay, Blind, Lingard, Rashford (Lukaku 67’), Martial (Shaw 87’)

Goliau: Lingard 21’, 59’

Cardiau Melyn: Tuanzebe 75’, Blind 79’

.

Torf: 20,083