AFC Fylde 2–0 Wrecsam   
                                                               

Methodd Wrecsam gyfle i godi i’r ail safle yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr wrth golli oddi cartref yn erbyn Fylde ym Mill Farm nos Fawrth.

Rhoddodd Jonny Smith y tîm cartref ar y blaen wedi dim ond wyth munud wedi i’r bêl adlamu i’ lwybr yn dilyn cic rydd Danny Rowe.

Dyblodd Jack Muldoon y fantais yn y chwarter awr olaf ac nid oedd ffordd yn ôl i’r Dreigiau.

AFC Fylde

Tîm: Lynch, Edmundson, Francis-Angol, Finley (McCready 90’), Burke, Tunnicliffe, Bond, Taylor, Smith (Tasemir 85’), Rowe, Muldoon (Jones 88’)

Goliau: Smith 8’, Muldoon 77’

Cerdyn Melyn: Finley 39’

Wrecsam

Tîm: Dunn, Roberts (Carrington 37’), Smith, Wright, Jennings, Marx, Rutherford, Wedgbury, Kelly (Mackreth 81’), Holroyd, Reid (Massanka 62’)

Cerdyn Melyn: Wedgbury 83’

Torf: 1,816