Ryan Giggs (soccer.ru CCA3.-0)
Mae cyn seren Cymru, Ryan Giggs, wedi dweud fod ganddo “ddiddordeb” mewn hyfforddi clybiau Leicester City ac Everton.

Ond mae wedi agor y drws hefyd ar reoli tîmau yn is i lawr yn y cynghreiriau, ac yntau wedi bod allan o waith hyfforddi ers mwy na blwyddyn.

Fe ddywedodd fod gan y clybiau o Gaerlŷr a Lerpwl y math o uchelgais a fyddai’n gweddu i’w awydd yntau, ond fe allai hynny fod yn wir am glybiau llai hefyd,  meddai.

“Mae’r agwedd yn bwysicach na statws y clwb.”

‘Eisiau gwella clybiau’

Dyw’r clybiau eu hunain ddim wedi sôn am Ryan Giggs a fu’n hyfforddwr dros dro ar ei hen glwb, Manchester United, ac yn ddirprwy rhwng 2014 a 2016.

Mae nifer o enwau wedi eu crybwyll ers i Craig Shakespeare gael ei ddiswyddo gan Leicester City ac ers i Ronald Keoman golli ei swydd yn hyfforddwr Everton ddoe.

Mewn cyfweliad ar Sky Sports, dywedodd Ryan Giggs ei fod eisiau “gwella clybiau a gwella chwaraewyr”, a bod Leicester City ac Everton felly’n glybiau sydd o “ddiddordeb” iddo.

“Rydych chi’n edrych ar y ddau dîm hyn”, meddai, “gyda Chaerlŷr yn bencampwyr ddau dymor yn ôl, ac Everton yn glwb arbennig sydd â hanes arbennig.

“Er hyn, mae yna lot o hyfforddwyr mas ʼna a fydd â diddordeb yn y swyddi hyn.”

Cystadleuaeth wrth Chris Coleman?

Mae rhai eisoes wedi darogan y gall hyfforddwr carfan pêl droed Cymru, Chris Colemann, fynd am un o’r ddwy swydd, wrth i’w gytundeb gyda Chymru ddirwyn i ben ddiwedd mis Tachwedd.

Er hyn, nid oes dim wedi’i gadarnhau eto, ac mae’n parhau i ystyried ei ddyfodol gyda Chymru. Mae’r chwaraewyr wedi gofyn iddo aros.

Mae’n bosib y bydd swydd arall ar gael cyn bo hir – y sïon yw fod y Cymro Mark Hughes dan bwysau yn Stoke City ar ôl dechrau gwael iawn i’r tymor.