Chris Coleman (Llun:Joe Giddens/PA)
Mae clwb pêl-droed Everton newydd ddiswyddo eu hyfforddwr ac mae adroddiadau yn y wasg yn barod y gallai hyn fod yn gyfle i Chris Coleman.

Mewn datganiad ddydd Llun (Hydref 23) mae clwb pêl-droed Everton wedi diolch i Ronald Koeman am ei waith dros yr 16 mis diwethaf ac am “arwain y clwb i’r seithfed safle yn ymgyrch Cynghrair y Pencampwyr y tymor diwethaf.”

Ond mae ei gytundeb wedi dirwyn i ben, ac mae adroddiadau y gallai hyn fod yn gyfle i Chris Coleman sy’n ystyried ei ddyfodol gyda thîm pêl-droed Cymru.

Mae cytundeb Chris Coleman gyda Chymru’n dirwyn i ben ddiwedd mis Tachwedd ac mae’n ystyried ei ddyfodol ar hyn o bryd gyda’r chwaraewyr wedi gofyn iddo aros, ond mae adroddiadau hefyd y gallai fynd am swydd hyfforddwr Dinas Caerlŷr.

Yr hyfforddwyr eraill sy’n cael eu crybwyll ar gyfer swydd Everton yw – David Moyes, cyn hyfforddwr Everton; Carlo Ancelotti, sydd newydd adael Bayern Munich; Eddie Howe, hyfforddwr Bournemouth a Sean Dyche, hyfforddwr Burnley.