Llion Jones (Llun: Llion Jones)
Ar ôl dechrau addawol i dymor Y Dinasyddion o dan ofal Kevin Nicholson, maen nhw wedi colli’r ddwy gêm ddiwethaf gan adael eu hunain pum pwynt y tu ôl i’r Seintiau Newydd sydd ar frig y tabl.

Mae’r cefnogwr brwd, y ‘Bardd ar y Bêl’,  Llion Jones, yn pwyso a mesur  dechrau tymor y tîm o Nantporth.

“Rwyf wedi bod yn gwylio Bangor ers tua 25 mlynedd. Heb os mae gwylio Cymru’n wych , ond dwi’n meddwl ei bod yn bwysig i gefnogi pêl-droed lleol. Dwi’n teimlo agosatrwydd rhwng y chwaraewyr a’r cefnogwyr.

“Roedd dyddiau Ffordd Farrar yn wych, awyrgylch gwych ac atgofion da, ond roeddwn yn derbyn bod yn rhaid i’r clwb symud ymlaen. Mae cyfleusterau Nantporth yn dda, ac mae’n wych gweld yr hogiau lleol yn gwneud defnydd o’r cae 3G.

“Rwy’n meddwl byddai eisteddle dan do tu ôl i un o’r goliau yn creu mwy o awyrgylch. Hefyd o ran y gynghrair, dwi’n siŵr bod gemau nos Wener yn well, mae gwell awyrgylch a dwi’n siŵr bod y torfeydd yn fwy.”

“Rhaid i bethau wella”

Ychwanegodd: “O ran y tîm, mae’r ddwy golled ddiweddar yn adlewyrchu perfformiadau’r mis diwethaf. Dy’n ni ddim yn chwarae’n dda, do mi wnaethom neud yn dda yn y fuddugoliaeth yn erbyn Cei Connah, ond mae’r hogyn lleol Danny Gossett wedi bod allan o’r tîm gydag anaf, ac rydan ni’n ildio goliau o bob man. Mae Danny wedi bod yn allweddol yn eistedd o flaen yr amddiffyn, felly  i fod yn onest dwi’m yn gweld pethau’n gwella tan mae o nôl.

“Mae gennyf amser i’r rheolwr Kevin Nicholson, dysgu mae o’i hun,  ond heb os mae’n rhaid i bethe wella yn dechrau nos Wener yn erbyn Derwyddon Cefn. Ildio gôl gynnar ym Mhrestatyn nos Wener, ac yr un hen stori oedd hi, ildio’n hawdd a methu sgorio. Mae’n rhaid i glwb fel Bangor anelu i fod yn Ewrop bob tymor, dyna be di’r lleiafswm.

“Hefyd buaswn yn hoffi gweld  chwaraewyr ifanc lleol  fel Guto Williams a Cai Owen sydd ar y fainc yn aml yn cael cyfle yn y tîm gyntaf.”

Cymru

Mae Llion Jones yn gefnogwr brwd o’r tîm cenedlaethol ac mae o’r farn y dylai Chris Coleman barhau yn y swydd.

“Roedd siom i fynd allan o Gwpan y Byd fel gwnaethom ni. Rydan ni wedi cael ein difetha’ fel cefnogwyr Cymru  dros y  blynyddoedd diwethaf. Dwi ‘n meddwl dylai Coleman roi ymgyrch arall i ni wrth y llyw. Mae’r staff wedi creu ysbryd clwb ymysg y chwaraewyr ac mae wedi talu ar ei ganfed. Felly edrych ymlaen sydd angen rŵan.”

Bydd Bangor gartref i Derwyddon Cefn nos Wener, 27 Hydref