Mae ymosodwr Cymru, Simon Church yn “awchu” i gyrraedd uchelfannau’r byd pêl-droed unwaith eto ar ôl derbyn cytundeb tymor byr gyda Scunthorpe.

Roedd e yn y tîm a gurodd Peterborough o 2-1 yn yr Adran Gyntaf brynhawn ddoe, ac yn allweddol yn un o’r goliau wrth iddo gael ei lorio yn y cwrt cosbi cyn i Josh Morris rwydo o’r smotyn ddwy funud cyn y chwiban olaf i sicrhau’r triphwynt.

Dywedodd wrth wefan y clwb ei fod e wedi cael cyfnod “rhwystredig” yng nghlwb Roda JC yn yr Iseldiroedd, lle chwaraeodd e mewn pedair gêm yn unig oherwydd anaf i’w glun.

Cyn hynny, roedd e’n aelod o garfan Cymru a gyrhaeddodd rownd gyn-derfynol Ewro 2016 yn Ffrainc.

Mae ei gytundeb newydd, sy’n dod i ben ym mis Ionawr, yn rhoi’r cyfle iddo brofi ei ffitrwydd a’i werth unwaith eto yn Glanford Park.

Dywedodd: “Ffoniodd y rheolwr [Graham Alexander] fi’n gynharach yr wythnos hon. Wnaeth e ofyn i fi sut oeddwn i ac a fyddai diddordeb gyda fi ddod a chwarae i Scunthorpe. Fe ddywedais i “Byddai” ar unwaith.

“I fi’n bersonol, mae wedi bod yn flwyddyn rwystredig iawn o ran anafiadau, mynd dramor a methu chwarae.

“Dw i wedi cyrraedd y fan nawr lle dw i wir eisiau bwrw ati, cael fy ffitrwydd a chwarae unwaith eto. Gobeithio y galla i helpu’r tîm drwy ddod yma hefyd.”

Goliau

Dywedodd ei fod e wedi gweld eisiau’r profiad o sgorio goliau dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Sgorio goliau yw’r hyn dw i’n ei garu ac yn gweld ei eisiau. Weithiau, tan i chi ddod allan ohoni am flwyddyn fel wnes i, mae modd i chi gymryd chwarae’n ganiataol.

“Ond ry’ch chi’n awchu unwaith eto, a dyna lle dw i arni ar hyn o bryd.”

Andrew Crofts

Wrth symud i Scunthorpe, fe fydd Simon Church yn ymuno â chwaraewr arall o Gymru, Andrew Crofts.

Ac fe ddywedodd ei fod yn edrych ymlaen at fod yn yr un tîm unwaith eto.

“Dw i’n nabod Crofty ers blynyddoedd fel rhan o garfan Cymru. Mae e’n chwaraewr gwych a chanddo fe brofiad gwych…

“Dw i’n nabod nifer o’r chwaraewyr eraill hefyd. Mae tipyn o ansawdd o fewn y garfan a dyna pham wnaethon nhw gystal y tymor diwethaf.

“Ry’n ni eisiau dychwelyd i’r Bencampwriaeth y tymor hwn felly os galla i ddod yma a’u helpu nhw i wneud hynny, dyna fydda i’n ceisio’i wneud.”