Roedd safonau tîm pêl-droed Abertawe wedi gostwng ddoe wrth iddyn nhw golli o 2-1 yn erbyn Caerlŷr, yn ôl yr amddiffynnwr canol Alfie Mawson.

Roedd llygedyn o obaith o wyrdroi’r perfformiadau diweddar ar ôl buddugoliaeth o 2-0 dros Huddersfield yr wythnos ddiwethaf.

Ond yr ymwelwyr oedd wedi rheoli’r gêm o’r cychwyn cyntaf ddoe, wrth i’r Elyrch golli am y pedwerydd tro mewn pum gêm gartref.

Yr amddiffynnwr ei hun oedd wedi rhoi gobaith i’r Elyrch gyda’i gôl yn yr ail hanner.

‘Cam yn ôl’

Dywedodd Alfie Mawson: “Ry’n ni wedi cymryd cam yn ôl.

“Yr wythnos ddiwethaf, roedd ein perfformiad yn wych ond roedden ni filltiroedd i ffwrdd o’r un safon heddiw ac roedd hynny’n amlwg yn yr hanner cyntaf.

“Ry’n ni wedi’n siomi ar ôl y golled honno – dydy colli gartref byth yn beth braf i’w gymryd.

“Roedd yr ail hanner yn galonogol ond ddim yn ddigon da. Mae pawb wedi siomi’n fawr oherwydd wnaethon ni osod safonau mor uchel yr wythnos ddiwethaf ac mae angen i ni allu eu cynnal nhw.”

Ychydig iawn o amser sydd gan yr Elyrch i godi’r safonau cyn y gêm yng Nghwpan Carabao yn erbyn Man U nos Fawrth.