Dagenham & Redbridge 0–1 Wrecsam
Cipiodd Wrecsam fuddugoliaeth ddramatig gyda gôl hwyr ar Victoria Road yn erbyn Dagenham & Redbridge yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr brynhawn Sadwrn.
Chwaraeodd y tîm cartref awr o’r gêm gyda deg dyn ond bu rhaid aros tan yr amser a ganiateir am anafiadau ar y diwedd cyn i’r Dreigiau gymryd mantais.
Cafodd Kevin Lokko ei hel oddi ar y maes wedi ychydig dros hanner awr o chwarae yn dilyn tacl wael ar Mark Carrington.
Daeth y deg dyn yn agos at agor y sgorio serch hynny a bu rhaid i Wrecsam ddal eu gafael cyn cipio’r tri phwynt yn y trydydd munud o amser brifo ar ddiwedd y gêm. Roedd hi’n draed moch yn y cwrt cosbi a gwyrodd y bêl i’w rwyd ei hun oddi ar Craig Robson.
Mae’r fuddugoliaeth yn codi Wrecsam i’r trydydd safle yn y tabl.
.
Dagenham & Redbridge
Tîm: Cousins, Doe, Robson, Lokko, Ferrier, Howell, Boucaud, Ling, Cheek (Enigbokan-Bloomfield 86’), Whitely, Howells
Cerdyn Coch: Lokko 32’
.
Wrecsam
Tîm: Dunn, Jennings, Smith, Carrington (Mackreth 72’), Holroyd (Boden 81’), Pearson, Reid (Massanka 81’), Rutherford, Kelly, Roberts, Wright
Gôl: Robson [g.e.h.] 90+3’
Cardiau Melyn: Kelly 56’, Roberts 70’
.
Torf: 1,492