Casnewydd 1–1 Mansfield         
                                                    

Gôl yr un a phwynt yr un a oedd hi wrth i Gasnewydd groesawu Mansfield i Rodney Parade yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Danny Rose yr ymwelyr ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i Sean McCoulsky daro nôl i gipio pwynt i Gasnewydd wedi’r egwyl.

Rhoddodd Rose Mansfield ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf wedi i’r bêl ddisgyn yn garedig iddo yn y cwrt cosbi.

Felly yr arhosodd hi tan hanner ffordd trwy’r ail hanner pan sgoriodd McCoulsky ei drydedd gôl mewn tair gêm wedi tafliad hir Ben Tozer.

Mae’r canlyniad yn cadw Casnewydd yn chweched yn nhabl yr Ail Adran.

.

Casnewydd

Tîm: Day, White (Rigg 59’), O’Brien, Demetriou, Pipe, Tozer, Bennett (McCoulsky 64’), Dolan, Butler, Amond, Nouble

Gôl: McCoulsky 69’

Cerdyn Melyn: Butler 83’

.

Mansfield

Tîm: Logan, White, Pearce, Bennett, Hunt, Potter (Anderson 87’), Butcher, Atkinson, MacDonald, Hemmings (Spencer 72’), Rose (Sterling-James 73’)

Gôl: Rose 22’

Cardiau Melyn: Whie 45’, Hunt 54’, Pearce 85’, Butcher 90+2’

.

Torf: 3,146