Abertawe 1–2 Caerlŷr      
                                                                 

Colli oedd hanes Abertawe wrth i Gaerlŷr ymweld â’r Liberty yn Uwch Gynghrair Lloegr brynhawn Sadwrn.

Aeth yr ymwelyr ddwy gôl ar y blaen cyn i Alfie Mawson dynnu un yn ôl i’r Elyrch ond nid oedd hynny’n ddigon.

Aeth Caerlŷr ar y blaen wedi 25 munud pan wyrodd croesiad ffyrnig Riyad Mahrez i gefn y rhwyd oddi ar ben amddifynnwr Abertawe, Federico Fernandez.

Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ond roedd yr ymwelwyr wedi dyblu eu mantais o fewn pedwar munud o’r ail ddechrau. Torodd Mahrez y trap camsefyll cyn chwarae’r bêl ar draws y cwrt chwech i roi gôl ar blât i Shinji Okazaki.

Ymatebodd yr Elyrch yn dda gyda gôl i Alfie Mwson, yr amddiffynnwr canol yn troi a gorffen fel blaenwr yn y cwrt cosbi.

Roedd gan y tîm cartref dros hanner awr ar ôl i sgorio’r ail a fyddai’n ennill pwynt iddynt ond daliodd Caerlŷr eu gafael ar eu mantais tan y diwedd.

Mae’r canlyniad yn cadw Abertawe yn y pymthegfed safle yn y tabl.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Mawson, Olsson, Renato Sanches (Routledge 78’), Britton (Ki Sung-yueng 45’), Carroll, Narsingh (Dyer 56’), Abraham, Ayew

Gôl: Mawson 56’

.

Caerlŷr

Tîm: Schmeichel, Simpson, Morgan, Maguire, Fuchs, Mahrez (Gray 87’), Ndidi, Iborra, Albrighton, Okazaki (King 68’), Vardy

Goliau: Fernandez [g.e.h.] 25’, Okazaki 49’

Cerdyn Melyn: Fuchs 15’

.

Torf: 20,521