Mae Everton wedi dweud eu bod am wahardd y cefnogwr gafodd ei ffilmio yn ceisio taro gôl-geidwad Lyon ym Mharc Goodison neithiwr.
Dywedodd y clwb eu bod yn gwybod pwy yw’r cefnogwr, oedd yn dal plentyn mewn un fraich pan geisiodd daro’r gôl-geidwad gyda’r llall.
Bu cythrwfl yn agos at y cefnogwyr wedi i Ashley Williams wthio gôl-geidwad Lyon fewn i’r hysbysebion ar ochr y cae.
Fe gollodd Everton 2-1 ac mae’r heddlu yn ymchwilio i’r gyflafan rhwng chwaraewyr y ddau glwb.
Hefyd mae UEFA yn ymchwilio i’r ffrwgwd fu rhwng tua 20 o chwaraewyr a rhai o’r cefnogwyr.
Bydd Everton yn gwahardd y cefnogwr dan sylw rhag mynychu gemau ac yn cwyno yn ffurfiol amdano i Heddlu Glannau Merswy.