Paul Merson ar y bêl (Llun: Lewis Mitchell)
Roedd siom nos Fercher i 400 o gefnogwyr tîm pêl-droed Caerau wrth i gêm gyntaf un o gyn-ymosodwyr Lloegr tros y clwb cael ei gohirio wedi i’r llifoleuadau ddiffodd.
Bu diddordeb mawr yn y gêm rhwng Caerau a Phontyclun oherwydd presenoldeb Paul Merson sy’ bellach yn un o byndits Sky Sports.
Roedd Paul Merson, 49, wedi cytuno chwarae i’r clwb oherwydd ei gyfeillgarwch gydag ysgrifennydd y clwb, Dai Hooper.
Fe gafodd cyn-seren Arsenal gêm dda cyn cael ei eilyddio ar ôl tuag awr gyda Chaerau yn ennill 3-2.
Gyda Paul Merson ond ar gael i chwarae gemau canol wythnos – oherwydd ei ymrwymiadau darlledu – mae nifer o glybiau wedi cysylltu â Chaerau i holi am gael newid eu gemau i ganol wythnos, oherwydd y sylw mae’r Sais wedi ei ddenu.