Tommie Collins sy’n holi pam fod un o dimau Cwpan Cymru yn dewis ildio’r fantais…

Mae gen i atgofion da o’m plentyndod yn gwylio Cwpan FA Lloegr.

Pwy all anghofio’r sioc enfawr pan gurodd Henffordd Newcastle United yn Chwefror 1972, a phlant yn rhedeg yn eu cotiau parkas ar ôl y sgoriwr, Ronnie Radford, ar ôl iddo wneud y gêm yn gyfartal, cyn i Ricky George sgorio’r gôl fuddugol yn yr amser ychwanegol?

Un arall oedd Sutton yn curo Coventry yn  Ionawr 1989, ac un arall gofiadwy oedd Wrecsam yn curo Arsenal ar y Cae Ras yn Ionawr1992.

Y cyswllt rhwng y rhain i gyd yw bod y timau buddugol i gyd yn chwarae gartref. Yr ochr arall i’r geiniog oedd Newcastle yn cwyno am orfod chwarae oddi cartref yn Stevenage yn 1998, heb sôn am Farnborough yn symud ei gêm gartref yn erbyn Arsenal i Highbury yn 2003.

RoeddGraham Westle yn  rheolwr ac yn aelod o’r bwrdd ar y pryd. Mi benderfynodd y clwb ildio’r fantais o chwarae gartref oherwydd yn y rownd cynt oedd damwain wedi bod yn erbyn Torquay. Roedd ar yr amser yn benderfyniad amhoblogaidd. Yn ôl Westley, “Pan mae Arsenal yn ffonio a deud mae’n rhaid i chi gymryd cyfrifoldeb am yswiriant ein chwaraewyr, mae’n benderfyniad hawdd.”

Siom

Felly, siom oedd clywed bod Penley ger Wrecsam – sy’n chwarae’n Adran Un Cynghrair Wrecsam y WNL – wedi ildio’r fantais o chwarae gartref  i CPD Porthmadog  yn Ail Rownd Cwpan Cymru. Dyma ddatganiad am y penderfyniad ar wefan CPD Porthmadog.

“Ar gais FC Penley, y clwb o Llannerch Banna, bydd y gêm yn Ail Rownd Cwpan Cymru yn cael ei chwarae ar Y Traeth. Cytunodd y ddau glwb ac mae Andrew Howard, y Pennaeth Cystadlaethau, wedi rhoi sêl bendith i’r newid ar ran y Gymdeithas Bêl-droed.”

Meddai ysgrifennydd y clwb, Dave Blithell: Wnaethon ni erioed gyrraedd mor bell yng Nghwpan Cymru ac, heblaw am ryw fath o wyrth, gallai hon fod y gêm olaf inni yn y gystadleuaeth eleni, ac felly byddai chwarae ein ‘ffeinal’ ni ar gae ardderchog CPD Porthmadog yn ddiweddglo teilwng i’r tîm.”

Geiriau FC Penley ydi’r uchod, wrth gwrs, ond bydd Craig Papirnyk, rheolwr Port a’i dîm yn rhoi’r parch arferol iddyn nhw ac yn paratoi am gêm anodd.

Diwrnod allan i’r clwb

Twt lol, rhyw fath o wyrth,  11 yn erbyn 11 ydi’r gêm, dydi Port ddim yn Real Madrid, dw i’n tybio bod Penley wedi colli’r gêm cyn dechrau! Maen nhw’n rhoi diwrnod allan i’w clwb yn lle ceisio mynd drwodd a phosib cael mwy o arian a ffeinal arall.

Fy mhwynt ydi, ac mae’n mynd yn ddyfnach na phenderfyniad Penley, pam cymryd rhan mewn cystadleuaeth os na allan nhw gyflawni eu dyletswyddau?

Mae clybiau Uwch Gynghrair Cymru hefyd yn penderfynu chwarae mewn stadiymau eraill yn eu gemau rhagbrofol yn Ewrop. Ydi hyn yn iawn? Ydi’r fantais wedi mynd yn syth? Os nad ydi’r stadiwm neu gae ddim i fyny i’r safon angenrheidiol, peidiwch â mynd i fewn i’r gystadleuaeth. Ydi hi’n bosib i glybiau ddatgan eu diddordeb cyn dechrau chwarae mewn cystadleuaeth?

Mae Cwpan Pokal yn yr Almaen gyda’r rheol yn y rownd gyntaf bod y clwb o’r drydedd adran – sef clwb amaturaidd yn chwarae gartref yn erbyn clwb proffesiynol, mae hyn yn syniad da yn fy marn i a chyfle i gael torfeydd gwych a phosib sioc, yn amlwg ym Mhrydain mae gwell gan rai clybiau cael ‘day out’.