Chris Coleman mewn cynhadledd i'r wasg (Llun Jamie Thomas)
Efallai mai gêm yn erbyn Ffrainc fydd yr ola’ i Chris Coleman yn rheolwr Cymru… neu fe fydd hi’n gyfle i ddechrau paratoi am yr ymgyrch nesa’.

Fe gyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru heddiw bod gêm wedi ei threfnu yn y Stade de France ar Dachwedd 10.

I Ffrainc, fe fydd yn gêm i baratoi at rowndiau terfynol Cwpan y Byd – i Gymru, ffordd o ddechrau dod dros y siopm o fethu â chyrraedd y rheiny.

Dod i ben

Mae cytundeb Chris Coleman gyda Chymru’n dod i ben ddiwedd Tachwedd ac, ar hyn o bryd, mae’n ystyried beth fydd ei ddyfodol.

Mae’r chwaraewyr wedi gofyn iddo aros, er ei fod wedi dweud cyn hyn mai ymgyrch Cwpan y Byd fyddai’r ola’ iddo.

Mae eisoes yn ffefryn ar gyfer y swydd wag yng Nghaerlŷr ar ôl i Leicester City ddiswyddo eu rheolwr, Craig Shakespeare, dros nos.