Stade de France (Llun: Thomas Faivre-duboz CCA 2.0)
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi y bydd Cymru’n herio Ffrainc mewn gêm gyfeillgar ym Mharis fis nesaf (10 Tachwedd).

Dim ond unwaith o’r blaen y mae’r ddau dîm wedi chwarae yn erbyn ei gilydd gydag Ian Rush yn sgorio gôl i sicrhau buddugoliaeth 1 – 0 i Gymru yn y gêm gyfeillgar honno yn Toulouse 35 mlynedd yn ôl.

Fe fyddan nhw’n wynebu’i gilydd yn Stade de France, a dyma fydd y gêm gyntaf i Gymru chwarae ers iddyn nhw golli’r cyfle i gymhwyso ar gyfer pencampwriaeth Cwpan y Byd ar ôl colli 1 – 0 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yng Nghaerdydd.

Fe fydd hon yn gêm dyngedfennol i’r hyfforddwr Chris Coleman hefyd ag yntau heb ddatgan ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol, er bod disgwyl i’w gytundeb gyda Chymru ddod i ben ar ddiwedd mis Tachwedd.